Canthrig Bwt

gan Seran Dolma

Llun gan Siân Barlow

Read this story in English

Mae'n bosibl y ganed Canrhig yn syth o'r mynydd.  Os felly, fe wnaed ei hesgyrn o ithfaen trwm, a pridd mawnog oedd ei chnawd, a dŵr gwyllt y mynydd a lifai yn ei gwythienau.   Fe'i ganed â llond pen o dyfiant garw – grug ac eithin a choed llus.  Wrth iddi dyfu, ymddangosodd coed bedw ifanc, helyg a chyll ar ei phen, ac yna coed drain a hyd yn oed derwen fechan.  Roedd ei chroen yn llyfn fel gwely cleiog yr afon, fel petalau gwyn y blodau drain, yn arw fel y gwair a'r hesg ar ben y mynydd, ac yn rhychog fel y creigiau moel.   

 

Ar y llaw arall, mae'n ddigon posibl mai person o gig a gwaed oedd hi, fel ti a fi, ond bod ei bywyd wedi bod yn llawnach na'n rhai ni o anffawd ac anlwc.  Efallai, er enghraifft i'w mam hi farw pan oedd hi'n ifanc iawn, neu hyd yn oed wrth ei geni.  Efallai mai merch di briod oedd y fam honno, a'r tad ddim eisiau gwybod.  Efallai nad oedd ganddi fawr o deulu fel arall, a pawb yn y fro yn rhy dlawd neu'n rhy brysur neu'n rhy grintachlyd i gymryd plentyn ychwanegol i mewn a'i magu.  Mae'n debyg bod amball un mwy calon feddal na'r lleill wedi rhoi bwyd iddi, a rhyw hen ddillad i'w rhoi amdanni,  a chaniatáu iddi gysgodi yn y sgubor neu'r beudu ar noson oer, ond mai plentyn neb oedd hi yn y bon. 

 

Roedd hi'n gawres fawr o blentyn gwyllt, ond nid dyna gododd ddychryn ar bobl Nant Peris, bu nifer o gawresi o'i blaen hi; gwragedd a fedrai godi maen cyn daled a dŷn ac un llaw er mwyn creu pont, neu achub ceffyl gwedd a'i gario adref i'r stabl fel ci bach yn ei chôl ar ol damwain, neu daro lleidr yn anymwybodol ac un bonclust o'i dwrn.  Roedd y cawresi hyn yn uchel eu parch, ac yn enwog, ond nid un fel hyn oedd Canrhig.  Roedd ganddi arferion rhyfedd, roedd hi'n aflonydd, fe ddiystyrai pob arferiad cwrtais, a gwrthodai byth unwaith plygu ar ei gliniau o flaen unrhyw feistr, boed dyn na duw.  Y pethau hyn oedd yn eu poeni nhw.  Byddai un oedd mor barod i herio'r drefn yn siwr o ddod ac anlwc ac enw drwg i'r fro.

 

Symudai Canrhig yn ddiddiwedd o'r foment y blodeuodd ymwybyddiaeth o dan ei chroen, a'r gallu i wingo'i choesau tewion tua'r cymylau.  Gwingodd a rholiodd drosodd ar ei bol, a dechreuodd stwffio mwsoglau a gweiriach a darnau o frwgaits i'w cheg.  Roedd ganddi lond ceg o ddanedd fel cerrig beddi o'r cychwyn cyntaf, ac er mai'r mynydd oedd ei mam, yn gynhaliaeth ac yn gynefin iddi, ychydig iawn o arweiniad a gawsai erioed gan neb.  Bu'n rhaid iddi ddwyn ei hun i fynnu, fel mae'r pysgod a'r penabyliaid yn ei wneud, yn byw ar ei greddfau.  Ond doedd hynny'n ddim byd iddi hi, roedd hi'n hapus ei hun ar y mynydd, ac wrth dyfu fe ddringai yn uwch i'r llefydd gwylltach, yn dawnsio a symud a throelli o hyd.

 

Fe dyfodd Canrhig yn blentyn cryf, yn ferch dlos, yn laslances hirheglog, yn wraig olygus, ond nid yn y drefn arferol.  Rhai dyddiau, ymddangosai'n lodes hirgoes hardd, ei gwisg yn ysgafn fel plu'r gweunydd am ei hygwyddau, a'i gwallt yn rhaeadr o fodrwyau lliw rhedyn cringoch i lawr ei chefn.  Y diwrnod wedyn, byddai hi'n gnotiau esgyrnog duon i gyd fel coeden ddrain yn y gaeaf, ei chorff esgyrnog yn noeth, ei danedd yn ymwthio allan o'i phenglog di-gnawd, a'i chwerthin aflafar yn deffro'r cŵn yn y nos.  Wedyn byddai'n ôl yn rholio ar ei chefn yn y gors, a'i thraed yn yr awyr yn gwneud sŵn byrlymu fel nant ar ddiwrnod braf.  Ac wedyn yn ddirybudd, fe fyddai'n gorwedd i lawr mewn cwm uchel anghysbell fel cefnen o graig ac yn peidio ac anadlu am fis, yn cuddio'i hun mewn amdo o niwl, ei chnawd yn raddol llithro oddi ar ei hesgyrn, ei phenglog yn syllu ar y sêr o dyllau gwag ei llygaid.  Wedyn byddai'n codi ar ei thraed eto, ei gwallt yn ddu'r tro hwn, yn chwyrlïo mewn carpiau duon o amgylch y creigiau uchel efo'r cigfrain.   Roedd hi'n anwadal ac yn newidiol, yn gwrthod bod yn un peth. 

 

Roedd pobl yn ei hofni, ond yn ei derbyn, fel fydden nhw'n derbyn y tywydd, ac yn gadael llonydd iddi.  Roedd amball un yn dod a'r perfedd iddi pan fydden nhw'n lladd dafad, neu'r pen, neu'r esgyrn i'w cnoi.  Credent y byddai'r offrymau hyn o sbarion gwaedlyd yn cadw'i thraed anferth rhag sefyll ar eu cnydau, eu anifeiliaid, eu sguborau a'i tai.  Y byddai Canrhig yn cadw'r stormydd iddi ei hun ar y mynydd, ac yn nadu'r afon rhag ddinistrio'r bont.  Credai Canrig mai gofyn am faddeuant oedden nhw.  Benditihai'r gweddillion a'u rhoi i'r cigfrain eu bwyta. 

 

Ond wedyn mae'n fwy tebygol mai tyfu wnaeth hi fel mae pawb, o fod yn blentyn i fod yn lances ac yna'n wraig, a heb neb i ddysgu iddi sut i fod ymysg pobl, ei bod hi'n greadures digon gwyllt yr olwg.  Dysgodd sut i hela sgwarnog trwy wylio'r adar ysglyfaethus yn taro'n sydyn o bell – a daeth y syniad iddi o ddefnyddio carreg, a'i daflu fel arf i daro'r anifail ar gefn ei ben yn annisgwyl.    Dysgodd sut i bysgota gan y creyr glas, trwy sefyll yn llonydd llonydd yn yr afon am oriau.  Gwneth waewffon oedd mor finiog a pig yr aderyn, a rhwng hynny a'r dail poethion a'r llus, cnau daear a mes, roedd hi'n llwyddo i gael digon o borthiant i fyw, rhywsut. 

 

Roedd Canrhig yn hoff o dywydd garw, ac fe'i gwelid yn aml yn dawnsio ar ben dibyn, ei gwallt yn dennu'r mellt a'i chorff yn clecian a sïo efo'r cymysgedd peryglus o drydan a dŵr.  Byddai rhywun llai gwydn wedi hollti'n ddwy, ond gwnaed Canrhig o ddaear gadarn, ac fe wyddai ei chorff sut i sianelu'r egnïau hyn er lles.  Hoffai sefyll ar ben y clogwyn pan fyddai'r gwynt yn chwythu'r rhaeadrau i fynnu i'r awyr, a chael ei throchi yn y rhuthr o ager oer.  Hoffai rhedeg gyda'r bleiddiaid ar noson loergan glir, ac udodd yn dorcalonnus am fis o nosweithiau  pan laddwyd yr olaf o'r giwed gan waywffon wenwynig Wtrig Trwyn Hyll.  Er hynny, fe ddaeth at ei hun, ac er na fu'r cwm eiroed yr un peth heb y bleiddiaid, roedd llawenydd yn dal i'w gael ar ddyddiau gwyllt o storm ac mewn tawelwch awyr las.  Pan dywynai'r haul, eisteddai Canrhig yn llonydd llonydd, a byddai'r gloenod byw yn glanio ar ei hwyneb, eu hadenydd yn cosi ei hamranau'n ysgafn, a safai'r clochdar y cerrig ar ei phen i alw ar ei gariad. 

 

Ydych chi'n coelio hyn i gyd?  Ydi unrhyw rhan o hyn yn eich taro chi'n debygol, o gwbl?  Os mai gwraig o gig a gwaed oedd hi, mae'n debyg mai cuddio mewn sgubor ymysg y gwair a gwres yr anifeiliaid a wnai hi pan ddeuai stormydd y gaeaf, ac mai yno y daeth Twm o hyd iddi un noson oer, pan oedd o'n edrych am gryman yr oedd ar fwriad gwneud dwrn newydd ar ei chyfer. 

 

Cuddio yn y lloft wair oedd hi, fel llawer i dro arall.  Gwyddai Canrhig sut i aros yn llonydd ac anadlu'n araf a diflannu i'r cysgodion, ond y tro hwn pan ddaeth Twm trwy'r drws, yn cario chwa o wynt oer o'i ôl, ei lygaid yn llachar ar ôl bod allan o dan y sêr, fe darfodd rhywbeth ar Ganrig.  Tynnwyd ei llygad tuag ato, ac yn lle cilio, gwthiodd y gwallt o'i hwyneb i'w weld yn well.  Denodd y symudiad sylw Twm, ac edrychodd i fynnu.  Gafaelodd eu llygaid yn eu gilydd ar draws y sgubor.  Gwelodd Twm y llygaid tywyll a'r gwallt du, a'r ysgwyddau noeth, oherwydd roedd Canrig wedi tynnu ei gwisg a'i hongian ar y trawst i sychu.  Heb feddwl, heb oedi, dringodd Twm yr ysgol, ac ymestyn ei law i gyffwrdd ei hwyneb.  Llithrodd i'w gôl fel cath, ac fel cath, fe'i mwythodd a'i charu a'i phlesio.  O'r foment pryd ddaeth Twm trwy ddrws y sgubor hyd pan gafodd ei hun ym mreichiau Canrig ymysg y gwair, ei galon yn carlamu fel stalwyn ar ras, ni thorwyd yr un gair rhyngthynt.  Doedd dim geiriau yn ei feddwl, dim meddyliau o unrhyw fath yn cymylu ei lawenydd a'i awch amdanni.  Roedd eu calonau'n curo'r un curiad, eu hanadl yn un anadliad, eu cyrff yn plethu'n un creadur, yn y nyth gynnes o wair o dan y tô, a'r byd mawr yn bell i ffwrdd, a'r gwynt yn dal i rhuo tu allan.  Disgynodd Twm i gysgu, a plygodd Canrhig ei chorff o'i amgylch.

 

O'r diwedd deffrodd Twm, ac edrych o'i amgylch, fel petai'n deffro o freuddwyd rhyfedd, ac meddai

            “O dduw anwyl, beth ydw i wedi ei wneud?”  Estynodd Canrhig ei llaw am ei law, ond symudodd ymaith.  Gwisgodd ei ddillad yn frysiog, a heb edrych arni, dringodd i lawr yr ysgol, a dychwelyd i'r tŷ at ei wraig.  Roedd Canrhig wedi hen arfer bod ar ei phen ei hun, ac fe gymerodd y byddai'n ei weld eto rhyw ben.  Yn y pen draw fe ddisgynodd hithau i gysgu.   

 

Daliodd Canrhig i fyw ei bywyd, i gysgu o dan y sêr ar nosweithiau clir yr haf, i bysgota am eogaid a hel dail yn y llwyni a'r coedydd.  Tueddai i osgoi'r tai a'r ffermydd, heb law pan oedd y tywydd ar ei waethaf, a pryd hynny fe sleifiai i'r adeiladau allan i gysgodi.  Doedd hi ddim yn unig, roedd ganddi'r coed a'r adar, y creigiau a'r sêr yn gwmni, ond meddyliai am Twm weithiau.  Roedd rhywbeth wedi newid ynddi hi'r noson honno.  Roedd ei chorff yn wahanol, ei bronnau'n teimlo'n drwm a chlwyfus, gwayw yn ei chefn, ac roedd hi'n llwglud trwy'r amser.  Roedd y gwaedu misol wedi peidio ers tro byd, oedd yn iawn gan Canrig.  Ymhen hir a hwyr, dechreuodd ei bol dyfu'n grwn.  Meddyliodd y byddai Twm eisiau gwybod, ac fe aeth i chwilio amdanno ble'r oedd yn aredig y tir gwastad ger y nant.  Ond i gyrraedd y cae wrth ymyl y nant, roedd eisiau mynd heibio i'r tŷ a'r sgubor, a dyna lle'r oedd Elin, gwraig Twm, yn taenu'r golchi rhwng y coed afalau yn y berllan.  Cerddodd Canrhig tuag ati, heb ofn nac euogrwydd, ac edrychodd y ddwy ar eu gilydd o hirbell.  Gwelodd y ddwy eu gilydd, a sylweddoli bod un yn ddrych i'r llall.  Roedd eu boliau yn grwn fel lleuadau llawn, eu traed yn sad ar y ddaear, eu gwalltiau'n chwifio yn yr awel, bron yn union yr un lliw, a llygaid y ddwy yn wyrdd fel dail bedw.  Roedden nhw fel dwy chwaer, am eiliad.  Syllodd Canrhig, ac fe welodd ddau fab penfelyn, efeilliaid, a aned ar yr un diwrnod, ond o ddwy fam wahanol.  Ond yna fe welodd bod un yn ffynnu ac yn tyfu tra bod y llall yn gwywo a nychu.   

            “Wyt ti wedi dod i chwerthin ar fy mhen i?”  Gofynodd Elin.  Ysgwydodd Canrhig ei phen.

            “Fedri di ddim dweud dim byd wrtha i nad ydw i ddim yn ei wybod yn barod”  meddai Elen “mi gyfaddefodd yn syth, ei fod wedi bod efo chdi yn y lloft wair, dy fod di wedi ei swyno fo a'i hudo i dy freichiau”  Cododd Canrhig un ysgwydd, ac edrych arni fel mae aderyn herfeiddiol yn edrych ar wraig â briwsion yn ei llaw. 

            “Dwi'n gwybod beth wyt ti”  meddai Elin, a throi yn ôl at y golchi. 

            “Wnaiff o ddim byw yn hwy na mis ar ôl ei eni”  meddai Canrhig, yn drist, a throdd i gerdded ymaith. 

            Syllodd Elin arni, ei llygaid yn anferth gan ofn.  Gollyngodd y fasged olchi ar y llawr, trodd a rhedeg i'r tŷ, gan igian crio, ac ni siaradodd un gair o'r foment honno nes y diwrnod y bu farw ei chyntafanedig, y mab bach penfelyn yr oedd hi wedi ei alw'n Eurig, a'i fagu a'i garu gan wybod mai byr fyddai ei gofal ohonno.  Ar ddiwrnod y cynhebrwng, ar ôl gosod ei gorff bach yn y pridd fe siaradodd am y tro cyntaf.

            “Canrhig wnaeth”  meddai.  “Hi y'i melltithiodd, pan oeddwn i'n disgwyl”  edrychodd y lleill ar eu gilydd, aeth murmur trwy'r dorf. 

            “Mi surodd y llefrith ar ôl iddi fod acw yn gofyn am fara”  meddai rhywun ymhen hir a hwyr

            “O!  Mi ddisgynodd tair o'n ieir ni'n farw am ddim rheswm yn y byd, ac wedi meddwl mi'r oedd hi newydd fod heibio, ac mi wrthodais roi wyau iddi, am fy mod i eisiau digon ar gyfer gwneud crempog i dê!”  Meddai rhywun arall. 

            “Gwrach ydi hi”  meddai Elen “mae hi wedi cymryd fy mab oddi arna i, ac mi'r ydw i am gymryd ei mab hi.” 

 

            Roedd Canrhig wedi cilio i fynnu'r cwm wrth fynd yn drymach, ac wedi esgor ar ei phletyn yn y gromlech, ymysg esgyrn cyndeidiau ei chyndeidiau, ac yno yr oedd hi pan gyraeddodd y pentrefwyr.  Elin a Twm oedd ar y blaen, ac roedd torf gas o'u holau, yn cario pladuriaid a ffyrc gwair, ac yn bytheirio am swynion a witsio a hud.  Swatiodd Canrhig yn ôl i'r cysgodion, ei phlentyn ar ei bron, ei wallt melyn yn glynu wrth ei dalcen euraid.  Tynhaodd ei breichiau o'i amgylch.  Safodd y dorf tu allan.  Camodd Twm yn ei flaen. 

            “Fy mab i yw'r plentyn hwn”  meddai, i bawb allu clywed.  “Does gen i ddim cywilydd, oherwydd ti a'm swynodd i Canrhig, i golli ar fy hun a chysgu gyda thi yn y lloft wair.  Roeddwn i fel dyn o'i go, heb ewyllys, heb rheswm, a ti wnaeth hynny i mi o'th fwriad a'th ewyllys drwg dy hun.  Ac yn waeth na hynny, ti roddodd felltith ar fy mab arall i, mab a aned o lan briodas rhyngthaf fi a'm gwraig.  Ond mae'r mab a aned oherwydd dy ddrygioni di yn blentyn di-fai, a hwn yw fy unig fab, felly myfi a hawliaf fy mhlentyn, i gael ei fagu gan fy ngwraig, ac mi gei di aros yma yn alltud ymysg yr esgyrn a'r creigiau moel i ddifaru dy ddrygioni am byth.”  Ac ar hynny, tynnwyd Canrhig o'i chuddfan, a rhwygwyd ei mab o'i breichiau, cyn iddi gael cyfle i ddweud dim na gwadu unrhyw beth. 

 

Ac felly y bu.  Cuddiodd Canrhig yn y gromlech.  Rhoddodd orau i ddawnsio ar ben y clogwyn yn y gwynt.  Bydddai'n pysgota yn yr afon pan oedd arni eisiau bwyd, ond fel arall, ychydig iawn o symud oedd arni.  Roedd y boen o golli ei mab fel carreg drom yn ei bol, a pob llawenydd wedi ffoi. 

 

Tyfodd ei mab yn fachgen eofn praff, fel coeden dderw ifanc sy'n tyfu mewn tir da, ond Wil oedd yr enw a roddwyd arno gan Elin a Twm.  Cafodd rhybudd ganddynt i osgoi'r gromlech ar bob cyfrif, fel holl blant y fro, am fod yno wrach oedd yn lladd plant.  Ond fe wyddoch am blant, y peth na ddylen nhw wneud ydi'r peth sy'n mynd a'u bryd, ac un diwrnod pan oedd yn bymtheg oed, arweiniodd Wil griw o fechgyn hŷ i fynnu'r llwybr at y bont, ac oddi yno i fynnu trwy'r cerrig mawr sy'n gorwedd blith draphlith ar hyd y lle, ac yn wir, dyna lle'r oedd gwraig denau, drist, yn gwisgo carpiau duon, ac esgyrn gwynion o amgylch ei thraed ar hyd y llawr, dan gysgod craig fawr y gromlech.  Roedd hi'n syllu'n ddifater ar ddim byd, a pan ddaeth Wil yn agos, edrychodd arno fel petai heb weld ei fod yno. 

            “Ti yw'r wrach”  meddai Wil.  Newidiodd llygaid Canrhig, fel petai hi o'r diwedd yn gweld fod rhywun yno.  Gwenodd.  Roedd ei danedd yn gam. 

            “Mi wn i pwy wyt ti!”  Meddai “rwyt ti'r un ffunud a dy dad.  Beth mae nhw'n dy alw di?”

            “Wil”

            “Wil, o ddiawl!  Am enw gwirion.  Dy enw iawn yw Deri.  Dyna'r enw roddais i arnat ti pan gest ti dy eni.  Paid a gadael iddyn nhw dy fychanu di efo enw fel Wil.”

            Roedd y bachgen wedi synnu, ac roedd rhywbeth yn llais y wraig wedi ei ddychryn.  Gafaelodd yn ei gwaewffon bysgota, oedd yn pwyso ar y graig wrth ymyl, a pwyntiodd y blaen at ei gwddf

            “Gwrach wyt ti, sy'n bwyta plant.”  meddai Wil “esgyrn yr holl blant ydi'r rhain, yr wyt ti wedi eu lladd a'u bwyta.  Rwyt ti'n hen wrach ddrwg, yn ffrind i'r diafol, meddai dad.”  Edrychodd Canrig ar ei mab, a heb symud o ble'r oedd hi'n eistedd, gafaelodd yng nghoes y gwaewffon a rhoi tro sydyn iddo gan orfodi'r bachgen i ollwng ei afael. 

            “Fi roddodd dy fywyd i ti”  meddai Canrhig, gan bwyntio blaen y gwaewffon at ei frest “ac mi fedswn i ei gymryd oddi arnat ti hefyd, ond nid gwrach ydw i.”  Gostyngodd yr waewffon, a gydag un tro ar ei llaw fe anfonodd y bachgen a'i ffrindiau ymaith. 

 

Wedi hynny roedd yr holl gwm yn fwrlwm gwyllt o siarad a phoeni a dwrdio bod Canrig y wrach wedi bygwth Wil Gwastadnant efo gwaewffon, ac mai hi oedd yn gyfrifol am ddiflaniad plentyn arall oedd wedi mynd ar goll, a cofiodd pawb am blentyn gyntaf Elin a fu farw. 

 

Roedd pregethwr teithiol yn digwydd bod yn yr eglwys y Sul hwnnw, a pan glywodd am y wrach yn byw yn y gromlech i fynnu'r cwm, fe aeth yno i gael golwg, a pan ddaeth yn ôl, roedd o'n berffaith siwr bod Canrhig yn ffrind mynwesol i'r diafol. 

 

            “Edrychwch, mae hi'n byw yn y lle anial creigiog hwnnw, mae esgyrn o amgylch ei chartref i gyd, mae'r lle yn aflan, mae'n drewi!  Gwyddoch fel y mae hi'n newid o hyd o un ffurf i'r llall, weithiau yn sgwarnog a weithiau yn frithyll, yn goeden ddrain neu'n graig ar ben y mynydd?  Pwy ydych chi'n meddwl sy'n rhoi galluoedd felly i rhywun?  Pwy sy'n ei galluogi i godi o farw yn fyw pob mis ar ôl y lleuad dywyll?  Dim ond y diafol all rhoi grymoedd fel hyn i neb.  ” 

            “Ond ddaru'r Iesu ddim codi o farw'n fyw?”  Holodd bachgen o'r gynulleidfa oedd wedi bod yn gwrando'n fwy astud na'r lleill. 

            “Roedd hynny'n wahannol!”  Meddai'r pregethwr.  “Mae hi'n wrach, dyna beth yw hi, ac mae'r diafol yn ei gwarchod hi ac yn ei helpu hi i hudo plant bach i'w ffau, a wyddoch chi beth mae hi'n ei wneud wedyn?  Ydi, mae hi'n eu bwyta nhw!”  Wedyn fe fe rhwbiodd ei ddwylo ynghynd ac arwain gweddi fel hyn:

 

            “O Dduw ein tad, gwaredo ni rhag ddylanwad diafolaidd gwragedd drwg.  Mae ymhlith y praidd yn y cwm hon ddafad ddu, gorniog, sy'n troi ei llygaid o'r neilltu pan mae goleuni'r gwrionedd yn disgleirio ar ei drwgweithreddoedd.  Gwrach yw hi sy'n melltithio pobl dduwiol y pentref, yn dwyn eu plant ac yn lladd eu hanifeiliaid.  Tra bod gwrach yn fyw yn y cyffiniau, ni bydd cnwd o wenith nac wyn na llefrith, ni fydd llonydd i'r plant na'r mamau na'r dynion duwiol.  Arglwydd dad, gwaredo ni rhag ei drygioni, ac arweinia ni trwy ddaioni dy ewyllys i ddewis bachgen cryf o'n plith i wneud dy ewyllys a glanhau'r cwm o ddylanwad tywyll y fall unwaith ac am byth.”

 

Dadblethodd y pregethwr ei ddwylo ac edrych ar y dorf. 

            “Pwy a laddo'r wrach?”  Gofynodd. 

            Tawelwch.  Edrychodd pawb arno.  Roedd cwyno amdanni a rhoi'r bai arni am bethau yn un peth, ond ei lladd?  Doedd neb wedi meddwl ei lladd. 

            “Mae hi'n gwneud gwaith y diafol yn eich mysg!”  Meddai'r pregethwr “mae hi'n pardduo'r holl fro!  Ydych chi'n mynd i ganiatau i'w melltith lesteirio eich bywydau am byth?”

            “Na...”  Murmurodd y dorf

            “Na!  Wrth gwrs nad ydych chi ddim!  Mi'r ydych chi am ddewis bachgen cryf a dewr, a rhoi cleddyf yn ei law i fynd i dorri ei phen ymaith.  Dim ond wedyn y cewch chi heddwch yn y cwm yma!  Beth ydych chi am ei wneud?”

            “Lladd y wrach!”  Gwaeddodd Elin

            “Wrth gwrs!”  Meddai'r pregethwr.  “Beth ydych chi am ei wneud?”

            “Lladd y wrach!”  Gwaeddodd Elin a Wil a Twm, a nifer o'u cymdogion

            “Ydych siwr!”  Meddai'r pregethwr “beth ydych chi am ei wneud?”

            “Lladd y wrach!”  Gwaeddodd pawb yn y dorf

            “Da iawn!”  Meddai'r pregethwr “pa farchog cyfiawnder wnaiff gario'r cleddyf?”

            “Fi!” Meddai Wil, gan sefyll ar ei draed. 

            “Na!  Meddai Elin, yn tynnu ar ei fraich, gan geisio gwneud iddo eistedd yn ôl i lawr

            “Da fachgen” meddai'r pregethwr “o ble cawn ni gleddyf?”

            Tawelwch. 

            “Efallai y cawn ni fenthyg un gan y meistr yn y plas?”  Meddai rhywun yn y cefn

            “Go dda, mi awn ar unwaith i ofyn!”  Meddai'r pregethwr, ac arweiniodd y dorf allan o'r eglwys yn un neidr hir, ac wrth ei phen yr oedd Wil, ei wallt melyn yn disgleirio yn yr haul fel lleugylch sant. 

 

Chwerthin wnaeth meistr y Plas pan glywodd i beth oedd eisiau benthyg cleddyf.  Roedd wedi bod wrth ei ginio, ac ar ei drydedd gwydriad o gwrw haidd. 

            “Lladd y wrach, aie?”  Meddai “dyna hwyl, fe ddown i gyda chi fy hun, dim ond bod gen i westai pwysig yn aros amdannaf fi yn y parlwr.”  Ond tynnodd gleddyf ei daid oddi ar ei bachyn.  Roedd hi'n finiog ac yn ddi-rhwd, gan fod y gwas bach yn ei glanhau a'i iro a'i hogi pob wythnos.  Gwnaeth y pregethwr i Wil benlinio gan godi'r gleddyf yn ei ddwy law tra'r oedd yntau'n ei bendithio gyda geiriau gwarchodol o'r efengyl, ac i ffwrdd a nhw am y gromlech. 

 

Gwelodd Canrhig nhw'n dod o bell.  Gwelodd lafn y cleddyf yn disgleirio yn yr haul, a lleugylch aur Deri.  Edrychai fel arwr mewn hen chwedl, roedd hynny'n siwr, er gwaethau ei ddillad syml a'i sgidiau ffarm.  Wnaeth hi ddim ymdrech i rhedeg i ffwrdd, er y gallai hi fod wedi ymdoddi'n hawdd i'r creigiau.  Eisteddodd yn ei hunfan, a pan ddaeth Wil o fewn pellter cleddyf iddi, edrychodd yn syth i'w lygaid. 

            “Deri” meddai “pren praff fy nghroth.  Mae nhw wedi plygu dy foncyff i'w hewyllys, mae dy ganghenau'n gam a'th brigau'n ysgwyd mewn gwynt croes.  Ond fy mab i wyt ti serch hynny, ac o'th linach di y daw can merch fydd yn famau i gant o blant, a hwythau'n famau i gant o blant, a pob un yn medru siarad efo'r adar a deall sibrwd y gwynt a nyddu eu hewyllys gyda dŵr yr afon i gyrraedd pedwar ban byd, a llawen fydd eu teyrnas, a llawn o gariad a charedigrwydd, nid fel y byd hwn sy'n ddim byd ond rheolau gwag ac esgyrn sychion.”

            “Tawelwch!”  Gwaeddodd y pregethwr, ond roedd Canrhig wedi gorffen siarad

            “Canrhig Bwt” meddai'r pregethwr “rydym wedi dod yma heddiw i'th gyhuddo o wneud gwaith y diafol, o ddwyn plant, o ladd ieir, o suro llefrith a hudo dynion.  Sut wyt ti'n pledio?” 

            Nid ymatebodd Canrhig, roedd ei meddwl hi'n bell i ffwrdd, eisoes wedi ymadael i symud ymysg y cymylau ar ben y mynydd.  Tybed a fyddai hi'n dod yn law? 

            “Sut wyt ti'n pledio?”  Gofynodd y pregethwr eto.  Syllodd Canrhig ar y grug ar y llethrau gyferbyn, ble'r oedd pelydr o haul yn goleuo smotyn siap mesen.  Byddai, penderfynodd.  Mi fyddai hi'n tywallt y glaw, ond mi fyddai yno hefyd fylchau yn y cymylau a byddai'r haul yn euro'r bryniau, ac fe fyddai yno enfys na welwyd ei thebyg o'r blaen erioed yn Nant Peris.  Enfys â thair bwa, a golau llachar islaw, a cymylau duon uwchben.

            “Sut wyt ti'n pledio?” Gofynodd y pregethwr am y trydydd tro.  Gwenodd Canrhig arno yn dyner.  Dyn bach gwirion, meddyliodd, o bell. 

            “Mae tawelwch gyfystyr a chyfaddefiad”  meddai'r pregethwr o'r diwedd “torrwch ei phen”

 

Penliniodd Canrhig ymysg esgyrn defaid ac esgyrn hen hen bobl oedd wedi marw canrifoedd ynghynt.  Crawciodd cigfran gan droi uwchben.  “Cei, hen ffrind”  meddai Canrhig, a dyna ei hunig eiriau wrth i lafn y cleddyf ganu trwy'r awyr.  Roedd hi'n finiog, ac roedd Deri'n fachgen cryf.  Torrwyd ei phen a'r un ergyd honno, a rholiodd i lawr yr allt rhwng y creigiau, a llifodd ei gwaed i mewn i'r ddaear.  Ac fel yr oedd hi wedi rhagweld, fe ddaeth hi'n law, ac fe olchwyd ei hen gorff yn lân, golchwyd ei gwaed i'r nant, golchwyd ei gwallt a'i hwyneb, a gwenodd ei phen ar yr enfys oedd yn disgleirio uwchben, ac ar y gigfran laniodd gerllaw wrth i'r dorf ymadael. 

 

Ond nid dyna ddiwedd Canrig, oherwydd pob tro y clywch chi'r gwynt yn chwipio o amgylch y creigiau ar ben y mynydd, neu os y gwelwch chi flodau gwynion cain ar hên bren du, neu glywed crawc cigfran, neu weld gloÿn byw yn glanio ar graig yn yr haul, fe wyddoch bod Canrhig yn dal yno'n troedio'r cwm. 

 

Ac mae ei phlant yn fyw hyd heddiw, er gwaethaf ymdrechion Elen i nadu'r mab rhag cael gwraig na chariad na gweld unrhyw ferch o gwbl, byth.  Nhw yw'r rhai sy'n rhoi llefydd i'r adar nythu, ac yn meithrin caeau gwair, ac yn creu pyllau i'r llyffaint a'r brogaod.  Nhw ydi'r rhai sy'n sibrwd pan fo'r byd yn gweiddi, ac yn caru pan fo'r byd yn casâu.