Sut le ac amser oedd fy Utopia Bach fi?

Geocache Bach, Mehefin 26-27
Gan Catrin Ellis Jones

Hanner diwrnod oedd y gweithdy, ond mi estynodd y teimlad dros y penwythnos. Rhyw fath o hydeimledd o fod yn fam, yn ferch, yn chwilen, yn enbyd, yn fychan bach, yn ffrind, yn fy nychymug ac yn y foment. Penwythnos o wrando a dawnsio mewn ac allan hefo syniadau pobl eraill. O wrando a sylwi, o deimlo a synhwyro,  creu a chwarae.

Screen Shot 2021-07-18 at 12.26.47.png

Cyrrhaeddom yn gynnar (am unwaith). Dyma gyfle i ddrganfod ac ategu at y geocache bach roedd Lindsey ac eraill wrthi’n gosod. Roedd Seran eisios wedi agor ei chegin swynion. Hawdd oedd adnabod olion Lisa hyd y lle… y llechi bach hefo tyllau, a phethau eraill yn barod i’w cael eu pwytho a’u plethu mewn i gyfuniadau difyr, annisgwyl. ‘Roedd ‘na “installations” bach ym mhobman. Ers tro, mae gwaith curadurol gofalus wedi creu arddangosfeudd ac “hapennings” ar gyfer y gloynnod byw a’r gwyfynod. Mae dirywiad raddol rhai o’r casgliadau, gyda olion llysnafedd, ac addurniadau pryf cop, yn ategu at eu swyn. Mae pobl wedi hel hen bethau sydd bellach ddim yn gwneud y swydd roedd rhywun wedi bwriadu ar eu cyfar, ac wedi eu gosod nhw’n ddel ymysg y danadl poethion, y miaren, barf yr hen wr, llyriad yr ais a bysedd y cwn. Mae’r rhywogaethau yn rhannu meddiant yma. Craff yw’r perfformaidau – pryfid a chwyn a gwair yn sibrwd – a chyn hir mi fydda ‘na eraill, fel ni, yn edmygu’r tirweddau syreal sy wedi eu gosod yn gynnil wrth yml stwidios yr artistitiad yn y lle gwych ‘ma, ger y Fenai.

Mae fy mab a minnau wedi bod yn ran o Utopias bach ers y cychwyn cynta’. Dwi’n sylwi arno’n tyfu tra ein bod ni’n cymryd rhan. Eisoes, mae wedi bod yn profiad da i rannu yn ystod y cyfnod clo - cyfle i grebachu a’n gilydd mewn i lecynnau bitw, anghysbell ym mhle geir pethau bach – hanes, diwylliant a bwystfilod. Morgryg, pryfed, chwilod, a chler, pryfed cop a gwlithod ac ati, be sy’n ein peri ni i ofni nhw? Pa mor ddieithr ydyn nhw i ni? Dim ond yn anaml rydan ni wir yn sylwi arnyn nhw. Beth petai nhw’n fwy amlwg, yn fwy swnllyd, yn fwy rymusol, neu jyst yn fwy ohonyn nhw? Be ‘sy’n fwy dychrynllyd: cyn lleied ohonyn nhw ‘sy na rwan, ‘ta cyn lleied rydan ni’n deallt amdanyn nhw?  Fel y mae hi, fedrai goddef ambell pigiad, ambell ias fach wrth i rhywbeth bach hefo fwy o goesa’ na fi ffoi dros fy mraich yn ddisymwth. Rydan ni’n cadw at ein tylwythau fel y cyfriw. ‘Chydig iawn o “integration” go iawn sy ‘na o dydd i ddydd.

Ond mae’r hen iard nwyddau ‘ma yn gwneud sioe reit dda o gydfyw hefo natur, ac mae’n le braf.

Roedd trigolion y studios wedi agor eu drysau ac yn ein annog i dodi casgliadau bach ein hunain wrth eu gilydd. Ymysg y pethau ar ein cyfer i greu, oedd ffigyrau bach plastig. Dwi ‘rioed wedi bod yn hoff iawn o rhain. Roedd yn well gynna’ i utopia hebddynt. Roeddwn i wedi gwrthod cyfosod yr estronwyr lliwgar ‘ma gyda lafnau o laswellt maint coed ffawydd, gyda cartheni we prycop, cylchoedd cerrig mân a choedwigoedd mwsogl. Doeddyn nhw ddim yn perthyn.

Mae G ar y llaw arall wrth ei fodd hefo nhw. Roedd wedi gwirioni hefo’r holl pethau mae nhw’n gwneud - rhai yn canu gitar, eraill mewn cotiau gwyn yn wyddonwyr microsgopig, rhai yn neidio, eraill yn eistedd.

Siawns eu bod nhw yn ysgogiad i drawsnewid ein persbectif, yn helpu ni dychmygu byw ar raddfa llai, heb gynlluniau rhy fawr, o fewn cyfnodau byrrach.  Rwan.

Wedi ystyried yr holl bethau bychain, prydferth, perffaith ac amherffaith, wedi eu gosod yn garedig ar ford i fodloni ein harchwaeth a’n heisiau – fel gwledd o tapas utopias bach – mi ges innau dipyn o flas ar y pobl plastig.

Mae ‘na le yn y tirwedd iddyn nhw hefyd. Pam lai? Dylai pawb cael y cyfle i archwilio ein perthynas hefo natur, creu cyfathrach hefo’r graig a’r ddaear a dur, yr adar, blodau a hadau….. Wrach yn y nos, mi fydd annifail bach, aderyn y to, neu llyg, yn cymryd ffansi at un o’r pobl ‘ma ac yn mynd a nhw, fel rhyw delwedd bach, neu brigyn diddorol i addurno neu llenwi bwlch yn eu cartref nhw.

Rhwng y trawsffurfiad, y creu a’r trafod, cawsom lawer o syniadau. I mi, y peth gorau oedd amser i gyfuno gwaith a chwarae a chelf a chariad. Roedd y digwyddiadau yn ffordd i deimlo fymryn yn fwy gwyllt. A dwi’n dal i deimlo y dylwn i “gwyllt-io” yn fwy aml.